Description
Wel, os ’da chi ’di bod yn teimlo braidd yn fflat ar ôl y flwyddyn ddwytha o lockdowns, dwi’n meddwl mai hwn fydd jest y peth i chi! Ma’ nhw’n dweud mai ‘chwerthin yw’r moddion gora’ dydyn, a fedra i ddim cytuno mwy! Mae Ha Ha Cnec yn drysorfa o jôcs fydd yn codi calon unrhyw un ac fydd yn siŵr o lwyddo i roi gwên ar wyneb hyd yn oed yr unigolion mwyaf sarrug!
Mae’n rhaid i mi ddeud fy mod i’n licio jôc dda. Er hynny, dwi wastad wedi cael un problem fach – dwi jest methu deud jôc i achub fy mywyd. Am ryw reswm, dwi bob amser yn mynd to bits reit cyn y punchline! ’Da chi’n gwybod yr awkward moment ’na pan ’da chi’n deud jôc a does ’na NEB yn chwerthin a ’mond sŵn tumbleweed sydd i’w glywed – wel ma’ hynny’n digwydd i mi bob tro! Dwi wedi dod i’r canlyniad fod deud jôc wirioneddol dda yn SGIL!
Wrth i Ha Ha Cnec gael ei lansio ar ddiwrnod y llyfr, ella fod ’na obaith o’r diwedd i mi allu dysgu deud jôcs yn iawn, heb iddyn nhw swnio fel dad jokes sâl!

Dyma lyfr sy’n chock-a-block o jôcs a dwdls dwl, sydd wedi’u trefnu o dan lwyth o benawdau gwirion. Mi gewch chi lond trol o hwyl yn darllen ac yn rhannu’r jôcs yma gyda’ch ffrindiau! Beth am ddysgu ambell un neu ychwanegu rhai eich hunain (mae ’na ddigon o le handi yn y cefn)?
Pwy sy’n dweud nad ydi llyfra jôcs yn addysgiadol? Wel, mi gewch chi ddweud wrth eich athrawon rŵan eu bod nhw definitely yn dysgu pethau pwysig fel geirfa i chi! Dwi fy hun wedi dysgu gair newydd bendigedig o’r llyfr yma, sef cnec. ‘Rhech’ da ni Gogs yn ei ddeud, ond dwi’n eitha licio ‘cnecs’ a ‘chnecio!’ Dwi’n meddwl y gwna i ddal ati i ddefnyddio ‘rhech’ ar gyfer trwmpsan fawr wlyb, ond mae ‘cnec’ yn air perffaith ar gyfer y rhai bach slei!
Dwi’m yn meddwl y cewch chi lyfr jôcs gwell am £1 yn y byd i gyd yn grwn, felly ewch da chi i nôl eich copi, ac mi fyddwch chithau’n chwerthin un pen ac yn cnecio’r pen arall mewn dim!